Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 a 2
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Ionawr 2023
Amser:
09.02 -
12.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13292
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Dr Chris Llewelyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Llinos Medi, Cyngor Sir Ynys Môn Andrew Morgan, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Christina Harrhy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Anthony Hunt, Torfaen Council Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Emma Smith, Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - sesiwn dystiolaeth 1: llywodraeth leol
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd, Cyngor Sir Ynys Môn
Christina Harrhy, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Chris Llewelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4, eitem 7, ac eitem 8 ar agenda’r cyfarfod hwn.
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
5.2. Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:
Y diweddaraf gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Addysg mewn perthynas â chludiant ysgol a’r Gymraeg;
Nodyn gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â thirwedd.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Llythyr gan y Llywydd at bob Aelod mewn perthynas â busnes pwyllgorau.
6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd at bob Aelod mewn perthynas â busnes pwyllgorau.
6.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch ei ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus
6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch ei Ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus.
6.3 Gohebiaeth i'r Prif Weinidog a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â goblygiadau ariannol Biliau
6.3.a Nododd y pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â goblygiadau ariannol Biliau.
6.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at yr holl Gadeiryddion pwyllgorau mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at yr holl Gadeiryddion pwyllgorau mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
6.5 Llythyr ar y cyd gan Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
6.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
6.6 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol; a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai mewn perthynas ag anghydraddoldebau iechyd meddwl.
6.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol; a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai mewn perthynas ag anghydraddoldebau iechyd meddwl.
6.7 Llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog â Chyfrifoldeb am Ffoaduriaid o Wcráin, Llywodraeth yr Alban, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol mewn perthynas â chartrefu ffoaduriaid o Wcrain.
6.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog â Chyfrifoldeb am Ffoaduriaid o Wcráin, Llywodraeth yr Alban, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol mewn perthynas â chartrefu ffoaduriaid o Wcrain.
6.8 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â diogelwch adeiladau
6.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â diogelwch adeiladau.
6.9 Llythyr gan y grŵp Welsh Cladiators mewn perthynas â diogelwch adeiladau
6.9.a Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y grŵp Welsh Cladiators mewn perthynas â Diogelwch Adeiladau.
6.10Rhagor o wybodaeth gan Shelter Cymru mewn perthynas â digartrefedd.
6.10a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Shelter Cymru mewn cysylltiad â digartrefedd.
7 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 5.
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
8 Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).
8.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.